English follows:-
Yn meddwl am ddychwelyd i addysg ac yn edrych am gychwyniad ysgafn?
Ymunwch ag un o'n cyrsiau byr yn Ysgol Gelf Caerfyrddin lle cewch eich addysgu gan diwtoriaid profiadol a fydd yn eich helpu i wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau er mwyn eich symud chi i'r lefel nesaf. Mae pob un o’n cyrsiau wedi'u hachredu a'u cyflwyno mewn gweithdai pwrpasol.
Am fwy o wybodaeth am Ysgol Gelf Caerfyrddin a'r cyrsiau rydym yn eu rhedeg, dilynwch ein tudalen Facebook www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt/
ac ewch i wefan Coleg Sir Gâr https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/study-mobile/carmarthen-school-of-art
TEITL Y CWRS BYR
Dylunio Printiau Digidol a Gwneud Cyfwisgoedd.
Technegau printio digidol ar gyfer cyfwisg ffasiwn greadigol - gweithio i friff penodol
Dyddiad dechrau: Dydd Llun 8fed Gorffennaf - dydd Gwener 12fed Gorffennaf 2019
Hyd - 5 diwrnod (6 awr y dydd)
Amser: 9.30am – 4.30pm
9.30am (sesiwn bore)
12.30pm – 1.30pm (egwyl ginio)
1.30pm – 4.30pm (sesiwn prynhawn)
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn dysgu hanfodion dylunio printiau digidol, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o dechnegau. Byddwch yn printio eich dyluniad eich hun ar ffabrig y byddwch yn ei wnïo i greu cynnyrch, hynny yw Cyfwisg Ffasiwn.
Diwrnod 1 a 2- Byddwch yn datblygu syniadau o ymchwil personol mewn ymateb i’r briff penodol, byddwch yn dethol a datblygu cyfryngau, deunyddiau a thechnegau addas. Byddwch yn archwilio ystod o dechnegau printio digidol gan ddefnyddio’r cyfrifiadur.
Diwrnod 3- Byddwch yn dewis dyluniadau printio terfynol ac yn printio ar ffabrig.
Diwrnod 4 a 5- Byddwch yn troi eich ffabrig printiedig i mewn i gynnyrch gan archwilio amrywiol dechnegau gwnïo.
Mae’r cwrs lefel 2 achrededig yn addas ar gyfer ystod o sgiliau o ddechreuwyr ymlaen. Lleolir y cwrs yng nghyfleusterau gweithdy pwrpasol yr adran Ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin.
Cyflwynir y cyrsiau 30 awr hyn fel yr uchod ar gost o £54
Mae’r nifer o leoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.
I wneud cais: Ffoniwch 01554 748201 neu
E-bost- csofa@colegsirgar.ac.uk
Thinking of returning to education and looking for a gentle start?
Join up to one of our short courses in Carmarthen School of Art where you will be taught by experienced tutors who will help you improve your knowledge and skills to get you to the next level. Each of our courses is accredited and delivered in bespoke workshops.
For more information about Carmarthen School of Art and the courses that we run, follow our Facebook page at www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt/
and visit the Coleg Sir Gar website https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/study-mobile/carmarthen-school-of-art
SHORT COURSE TITLE
Digital Print Design and Accessory Making.
Digital print techniques for a creative fashion accessory- working to a set brief.
Start date: Monday 8th July – Friday 12th July 2019
Length- 5 days (6hrs per day)
Time- 9.30am- 4.30pm
9.30am (morning session)
12.30pm – 1.30pm (lunch break)
1.30pm – 4.30pm (afternoon session)
During this course you will learn the basics of digital print design, focusing on a variety of techniques. You will print out your design onto fabric which you will sew up into a fashion accessory.
Day 1 & 2- You will develop ideas from personal research in response to the given brief, you will select and develop appropriate media, materials and techniques. You will explore a range of digital print techniques using the computer.
Day 3- You will select final print designs and print onto fabric.
Day 4 & 5- You will turn your printed fabric into a product exploring various sewing techniques.
This level 2 accredited course is suitable for a range of skills from beginners onwards. The course is based in the bespoke workshop facilities of the Fashion department at Carmarthen School of Art.
These 30 hour courses will be delivered as above at the cost of £54
Limited places are available.
To apply: Please ring 01554 748201 or
Email- csofa@colegsirgar.ac.uk
More stories