Saturday 16 March 2pm – Free – just drop in
Oriel Myrddin Gallery
Erica Thompson and her family have recently moved into their new, self-built straw bale home in Carmarthenshire. Taking inspiration from The Building Project’s themes of settlement and an emerging reaction to homogenous towns and cities, she will talk about the opportunities that One Planet Development offers us in Wales for ecological architecture and design, and how OPD can contribute to local economies and communities.
Learn from Erica’s journey from the application process through to completion. There will be a talk, lots of pictures of their home and plenty of chances for questions and answers.
Rhyfeddodau Un Blaned: Sgwrs gydag Erica Thompson
Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2pm – Am ddim - galwch heibio
Oriel Myrddin
Yn ddiweddar symudodd Erica Thompson a'i theulu i'w ty newydd a adeiladwyd ganddynt hwy eu hunain allan o fyrnau gwellt yn Sir Gaerfyrddin. Gan gymryd ysbrydoliaeth o themâu Y Prosiect Adeiladu yn ymwneud ag aneddiadau a'r adwaith sy'n datblygu i drefi a dinasoedd unffurf, bydd hi'n siarad am y cyfleoedd y mae Datblygiad Un Blaned yn eu cynnig i ni yng Nghymru ar gyfer pensaernïaeth a dylunio ecolegol, a sut y gall Datblygiad Un Blaned gyfrannu at economïau a chymunedau lleol.
Dewch i ddysgu o daith Erica, o'r broses o wneud cais hyd at gwblhau'r ty. Bydd yna sgwrs, llawer o luniau o'u cartref a digon o gyfle i holi ac ateb.
More stories