Mae'r Jaguar E-Type enwog eisoes wedi profi ei bedigrî ar hyd ffyrdd Cymru, ac ym mis Gorffennaf bydd fflyd o'r ceir clasurol cyflym yn teithio'r un trywydd a greodd hanes yn y byd moduro.
Ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, bydd fflyd o 24 Jaguar hanesyddol yn gyrru drwy Sir Gaerfyrddin i ddathlu 60 mlynedd ers y daith enwog wreiddiol yng Nghymru.
Ym 1957 rasiodd prototeip Jaguar E-Type ar hyd ffyrdd hir troellog Cymru er mwyn profi ei fod ymysg y cyflymaf, a 60 mlynedd oddi ar hynny, bydd grwp o selogion Jaguar yn teithio unwaith eto ar hyd y trywydd prawf gwreiddiol rhwng Aberhonddu a Chaerfyrddin.
Cyfrinach oedd y prosiect E-Type cyntaf, ond ym 1957 rhoddodd Jaguar y prototeip ar fenthyg i'r is-gyrnol Christopher Jennings, Uchel-siryf Sir Gaerfyrddin, a oedd digwydd bod yn olygydd ar gylchgrawn The Motor hefyd. Roedd Jennings yn profi ceir ar ei hoff lwybrau rhwng Aberhonddu a Chaerfyrddin; ei daith gyflymaf oedd mewn Aston Martin a oedd yn cael ei bweru gan injan rasio Le Mans. Roedd Jaguar yn awyddus i wybod pa lwyddiant y byddai ei model newydd yn ei gael ac roedd y canlyniad yn anhygoel.
Bydd y confoi yn gadael Gwesty'r Castell yn Aberhonddu am 11am cyn teithio ar hyd yr A40 tuag at Lanymddyfri a chymryd yr A4069 ar hyd Dyffryn Tywi i Langadog, ac yna ar hyd yr A40 i Landeilo (byddant yn gyrru drwy'r dref tua 11.30am). O Landeilo, byddant yn teithio ar hyd y B4300 i Gaerfyrddin, lle bydd y Jaguars yn cael eu harddangos yn Rhodfa'r Santes Catrin ac yng Nghlos Mawr rhwng tua 12pm a 1.30pm.
Ar ôl ymweld â Chydweli, sef hen gartref Jennings, bydd y ceir yn teithio i Bentywyn i gyrraedd yno erbyn 3.30pm, lle byddant yn cael eu harddangos ger y tywod lle gafodd holl recordiau cyflymder cynnar y byd ar dir eu gosod. Bydd y cerbydau yn dychwelyd i Aberhonddu yn hwyr yn y prynhawn.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Hamdden: "Mae'n wych bod y ceir arbennig hyn yn teithio drwy'r sir a bod modd eu gweld mewn cynifer o drefi. Mae'n bosibl mai dyma fydd y tro cyntaf erioed i'r fath amrywiaeth o gerbydau Jaguars sy'n ymweld â Chaerfyrddin, Cydweli a Phentywyn, gael eu gweld yng nghanol trefi Cymru."
Yng Nghaerfyrddin, tref sydd â chymaint o gysylltiad â Christopher Jennings, bydd y ceir yn cael eu cyfarch gan y maer a bydd croesawiad bychan yn cael ei gynnal.
Mae tua 24 o gerbydau prin Jaguar yn cymryd rhan, gan gynnwys modelau eiconig megis yr XK120, XK150, C-Type, D-Type ac, wrth gwrs, sawl E-Type.
More stories