Dewch i weld cynhyrchiad arbennig i blant bach gan Cwmni Theatr Arad Goch!
Cerddoriaeth, dawns, hedfan, breuddwydion, byd hudol lle mae hosanau yn troi’n frecwast... a lot fawr o hwyl! Mae Oes Rhaid i Mi Ddeffro yn gynhyrchiad rhyngweithiol i blant ifanc sy’n wledd i ddychymyg y wylwyr!
Mae’r gynulleidfa yn cael cyfle i adeiladu a chreu eu straeon eu hunain mewn perfformiad sy’n cyffwrdd â themâu megis rhannu, creu a ffrindiau. Ymunwch â ni ym myd breuddwydiol y cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Arad Goch a wnaeth yn torri tir newydd ym maes theatr i blant yng Nghymru trwy cyfuno coreograffi cyfoes Eddie Ladd a cherddoriaeth gwerin o’r 18fed Ganrif.
Mae’r ddrama yn defnyddio defnydd meddal ac yn frith o themâu amrywiol – yn cynnwys elfennau cryf o gerddoriaeth, symud a dawns sydd yn ysgogiad creadigol ac addysgol ar gyfer nifer o weithgareddau dilynol yn y dosbarth a’r tu allan. Hefyd mae elfennau rhyngweithiol wedi’u plethu i mewn i’r perfformiad. Enwebwyd ar gyfer y cynhyrchiad orau i blant a phobl ifanc yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016.
Bydd Oes Rhaid i Mi Ddeffro yn dod i Theatr Brycheiniog Dydd Mawrth 27 Mehefin 1.30pm; tocynnau £10 (costyngiad £7)
Mae tocynnau ar gael ar-lein ar brycheiniog.co.uk neu drwy y Swyddfa Docynnau ar 01874 611622.
More stories